Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (161)v5 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Yr Adolygiad o Wasanaethau Newyddenedigol yng ngogledd Cymru (30 munud)
|
4 Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Gynhadledd Fawr - y camau nesaf (30 munud) |
|
5 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Paratoadau ar gyfer Tywydd y Gaeaf (30 munud) Dogfen Ategol
|
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru: Yr Ail Adroddiad (30 munud) |
7 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Parhad a Newid - Adnewyddu'r Berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector yng Nghymru (30 munud)
|
8 Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (15 munud) NDM5349 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Hydref 2013. Dogfennau Ategol Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
Memorandwm Esboniadol
|
9 Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 (15 munud) NDM5350 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2013. Dogfennau Ategol Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013
|
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol (15 munud) NDM5259 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol sy’n ymwneud â’r trefniadau archwilio ar gyfer y Byrddau Draenio Mewnol y mae eu hardaloedd yn rhannol oddi fewn i Gymru, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dogfennau Ategol Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). I weld copi o’r Bil, ewch i: Bill documents — Local Audit and Accountability Bill [HL] 2013-14 — UK Parliament
|
11 Dadl: Cynlluniau'r GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol i fod yn Barod ar gyfer y Gaeaf (60 munud) NDM5348 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi gwaith GIG Cymru a’i bartneriaid wrth iddynt baratoi ar gyfer y gaeaf o’n blaenau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y penderfyniad i ohirio llawdriniaethau orthopedig yn ardal Hywel Dda. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylid cynllunio ar gyfer pwysau’r gaeaf fel mater o drefn, ac na ddylai arwain at ddirywiad mewn gwasanaethau. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi Cynllun Paratoi ar gyfer y Gaeaf Cenedlaethol blynyddol ar gyfer GIG Cymru; a b) cytuno bod cynlluniau o’r fath yn destun gwerthusiad ar ôl eu rhoi ar waith er mwyn canfod pa mor effeithiol ydynt. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at gynlluniau arfaethedig Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i ohirio’r holl lawdriniaethau orthopedig dewisol dros y gaeaf. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun paratoi ar gyfer y gaeaf pob Bwrdd Iechyd Lleol. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith y cafodd 2,600 o lawdriniaethau eu gohirio y llynedd oherwydd bod mwy o bwysau dros y gaeaf ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Byrddau Iechyd Lleol er mwyn osgoi unrhyw achosion o oedi neu ganslo llawdriniaethau oherwydd pwysau’r gaeaf yn y dyfodol. Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod 2,713 yn llai o welyau mewn ysbytai yng Nghymru nag a oedd yn 2003, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael er mwyn helpu i ateb yr her a ddaw yn sgîl y galw dros y gaeaf. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 13 Tachwedd 2013